top of page
Eisteddfod Ysgol 2023.jpeg

Siarter Iaith

Cartref | Home : Video

Beth yw’r Siarter Iaith?
What is the Language Charter?

Cynllun er mwyn hybu’r defnydd o Gymraeg yn gymdeithasol yn ysgolion cynradd Cymru yw’r Siarter Iaith. Maent wedi cyflwyno dau gymeriad Newydd sef Seren a Sbarc. Bydd y ddau arwr yma ar bosteri a bathodynnau yn annog plant rhwng 4 a 7 oed i ddefnyddio’r iaith ar yr iard, yn y cartref ac yn y dosbarth. Fel rhan o'r Siarter, mae pob ysgol unigol yn cwblhau ymarfer sylfaenol i bennu defnydd o'r iaith cyn datblygu cynllun gweithredu i weithio tuag at wobr efydd, arian neu aur. Mae'r cynllun yn annog cyfranogiad gan bob aelod o gymuned yr ysgol - yn ddisgyblion, rhieni, llywodraethwyr ysgol a'r gymuned ehangach. Mae cyfathrebu yn rhan bwysig o fywyd cyfoes - mae tyfu fyny yn ddwyieithog yn golygu bydd plant yn datblygu sgiliau bywyd. Gelli ddarllen mwy am y Siarter Iaith yn eich ardal chi ar wefannau eich ysgol lleol. Mae gan gymeriadau y Siarter, Seren a Sbarc, gân arbennig, gyda’r geiriau i ganu gyda’r gân yn y fideo. Mae’r gân hefyd ar gael ar Spotify.

 

The Welsh Language Charter is a project to encourage the use of Welsh socially in primary schools in Wales. It has welcomed two characters, Seren a Sbarc. The two heroes on posters and badges will encourage children between 4 and 7 years old to use the Welsh language in the playground, at home and the classroom. As part of the Charter, each individual school completes a baseline exercise to determine current language use before developing an action plan to work towards a bronze, silver or gold award. It encourages participation from every member of the school community - pupils, parents, school governors and the wider community. Communication is at the heart of modern life – growing up bilingual meant that children will be developing skills for life. You can read more about the Welsh Language Charter in your area on your local schools website. The Siarter Iaith mascots, Seren and Sbarc, have a special song, which you can sing along with my following the lyrics in the video. The song is also available on Spotify.

Cartref | Home : Staff
R (3).jpg

1

Criw Cymraeg

Welsh crew

Mae Criw Cymraeg Ysgol Bryn Onnen yn hyrwyddo'r Gymraeg o fewn a thu allan i'r ysgol.

 

Ysgol Bryn Onnen's Criw Cymraeg, promote the Welsh language both within and outside the school.

2

Y Pam? Ble? Pwy? Pryd? Sut? o ddefnyddio’r Gymraeg

The Why? Where? Who? When? How? of using the Welsh language

3

Ein targedau siarter iaith Gymraeg

Our Welsh language charter targets

4

Dolenni defnyddiol sy’n gallu cefnogi’r Gymraeg

 

Useful links that can support the Welsh language

IMG_5031_edited.jpg
IMG_5030.jpg

Criw Cymraeg

Welsh crew

Y Criw Cymraeg yw grwp o blant yr ysgol sydd yn frwdfrydig i hybu defnydd o'r Iaith Gymraeg tu fewn a thu fas yr Ysgol. Maent yn cwrdd dwywaith pob wythnos i drafod syniadau ac i werthuso effaith eu syniadau yn erbyn targedau'r siarter. Mrs Meredith-Wood sy'n gyfrifol am oruwchwylio'r Criw ac yn eu helpu gyda'u trefniadau. Mae Mr Glyn Davies, cadeirydd y Llywodraethwyr, hefyd yn gyfrifol am helpu'r Criw!

 

 

The Criw Cymraeg are a group of children who are enthusiastic in promoting the Welsh language within and outside of the School. They meet twice a week to discuss ideas and to monitor the effects of their ideas against the charter's targets. Mrs Meredith-Wood is responsible for overseeing y Criw and helping them with their arrangements. Mr Glyn Davies, chair of governors, is also responsible for helping Y Criw!

Cartref | Home : About

Pam?

  • Mae'r Gymraeg yn beth byw!

  • Gwella’r defnydd o’r Gymraeg y tu allan i’r dosbarth a’r ysgol.

  • Gwerthfawrogi iaith ein cenedl fel peth byw.

  • I ddangos parch at yr iaith.

  • Codi hyder i ddefnyddio'r iaith.

Ble?

Siopau, Ffreutur, Swyddfa'r Ysgol, Gyda ffrindiau ar yr iard, Yn y parc, Gartref, Ym mhobman!

Sefydliad Iechyd y Byd?

Y prifathro, Staff yr Ysgol, Staff y Gegin, Llywodraethwyr, Disgyblion, Rhieni, Ymwelwyr, Pawb!

Pryd?

Trwy'r amser!!! Yn enwedig tu allan i'r dosbarth/ysgol!!

Sut?

Defnyddio geiriau ac ymadroddion Cymraeg wrth siarad ag eraill!

Dewis bwydlenni yn Gymraeg (banc / siopau bwyd cyflym ac ati)

Why?

  • Welsh is a living thing!

  • To improve the use of Welsh outside the classroom and the school.

  • To appreciate our nation’s language as a living thing.

  • To show respect towards the language.

  • To raise confidence in using the language.

Where?

Shops, Canteen, School Office,With friends on the yard, At the park, At home, Everywhere!

Who?

The headmaster, School Staff, Kitchen Staff, Governors, Pupils, Parents, Visitors, Everyone!

When?

All the time!!! Especially outside the classroom/school!!

How?

Using Welsh words and phrases when speaking with others!

Choosing menus in Welsh (bank / fast food outlets etc)

IMG_5017.jpg
Defnyddio'r Gymraeg
IMG_5036.jpg

Siarad Cymraeg tu allan o’r dosbarth

To speak Welsh outside of the classroom

 

Defnyddio technoleg trwy gyfrwng y Gymraeg

To use technology through Welsh

 

Gwrando ar gerddoriaeth Cymraeg

To listen to Welsh music

 

Gwylio rhaglenni Cymraeg ar S4C neu’r we

To watch Welsh programmes on

S4C or the internet

Ysgol Bryn Onnen, Y Farteg, Pontypwl, Torfaen, NP4 7RT
Ffon -Telephone: 01495 772284
E-bost - Email: head.ysgolbrynonnen@torfaen.gov.uk

Cartref | Home : Quote
bottom of page