Yr ydym wedi bod yn lwcus iawn dros sawl mlynedd i gael gwasanaethau Mr. Keith Nash fel trysorydd Ffrindiau Bryn Onnen. Yn anffodus iawn mae amser Keith yn dod i ben gyda Sion ei fab yn gadael Ysgol Bryn Onnen i fynd i Ysgol Gyfun Gwynllyw ym mis Medi. Mae Keith wedi bod yn drysorydd am dua 15 o flynyddoedd ac fe fydd ei ymadawiad ef yn golled enfawr i Ffrindiau Bryn Onnen, ac yn wir, i’r ysgol gyfan. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Keith am ei holl ymroddiad i’r ysgol ac fe fydd yr ysgol yn ddlotach le yn ei absenoldeb.
Yn yr un modd yr ydym hefyd yn ffarwelio a rhiant arall sydd wedi gwneud llawer dros Ffrindiau Bryn Onnen sef Jo Nicholas. Fe fyddei merch Megan hefyd yn mynd i Ysgol Gyfun Gwynllyw ym mis Medi. Diolch yn fawr iawn i Jo sydd wedi bod yn ganolog i holl lwyddiant Ffrindiau Bryn Onnen tra fu Megan yn yr ysgol.
We have been very lucky over many years to have the services of Mr Keith Nash as treasurer for Friends of Bryn Onnen. Sadly Keith’s time is at an end as his son Sion will be going up to Ysgol Gyfun Gwynllyw in September. Keith has been treasurer for 15 years and his departure is a huge loss for Friends of Bryn Onnen and indeed the whole school. We would like to thank Keith for all of his contributions to the school and I know that Ysgol Bryn Onnen will be a poorer place when he goes.
In the same vein we also thank and say goodbye to Jo Nicholas who is another parents who has done so much fro Friends of Bryn Onnen. her daughter Megan will also be going up to Gwynllyw in September. We therefore thank Jo who has been central to the success of Friends of Bryn Onnen during the whole time that Megan has been a pupil at Ysgol Bryn Onnen.